Y newyddion diweddaraf

Dr Dan Muckle-Jones a Chlwb Camera Rhuthun

Published on 

Am noson wych gafodd Rhwydwaith Celfyddydau Rhuthun ar 12 Chwefror! Soniodd Dr Dan Muckle-Jones am ei angerdd am ffotograffiaeth a’i ymwneud â Chlwb Camera Rhuthun. Cafodd y gynulleidfa wledd o luniau trawiadol a dynnwyd gan Dan ac aelodau’r Clwb Camera, ac mi gafwyd cyfle i ofyn cwestiynau i Dan am ei daith artistig.

[Llun: Ladies in Kensington Gardens gan Dan Muckle-Jones]

Dywedodd Dan: “Mae gen i ddiddordeb mewn ffotograffiaeth ers fy arddegau, ond mae wedi dod yn fwy o angerdd ers i mi ymddeol o fy ngyrfa mewn meddygaeth. Byddwn yn dal i ddisgrifio fy hun fel amatur brwdfrydig. Dwi wedi cynhyrchu gwaith ar draws genres amrywiol, ond mae fy mhrif ddiddordeb mewn ffotograffiaeth ddogfennol a ffotograffiaeth stryd. Mae gan ffotograffau’r pŵer i hysbysu, difyrru, herio a pherswadio.”

[Llun: The Space Between Us gan Dan Muckle-Jones]

“Yn y bôn, ymdrech ddynol yw ffotograffiaeth,” ychwanegodd Dan. “Mae gennym ni i gyd safbwynt, ac mae llun yn dweud rhywbeth am y ffordd mae ei gynhyrchydd yn gweld y byd. Mae ffotograffiaeth yn fy nysgu i edrych. Dwi’n ceisio cynhyrchu lluniau sydd â synnwyr cryf o naratif neu emosiwn. Dwi’n chwilio am ryngweithio rhwng pynciau, a dwi bob amser yn chwilio am amwysedd gweledol.”

Mae Dan hefyd yn cael ei ddenu at dynnu lluniau o’r cyffredin, ac mae wedi’i gyfareddu gan y ffordd y gall tynnu lluniau o rywbeth cyffredin godi ei arwyddocâd canfyddedig.  

[Llun: Soft Furnishings gan Dan Muckle-Jones]

Ffurfiwyd Clwb Camera Rhuthun yn 1986, ac mae’n rhan o rwydwaith o glybiau camera ledled y DU a’r byd. Ymunodd Dan â’r clwb yn 2017 er mwyn cyfarfod â ffotograffwyr eraill a datblygu ei grefft.  

Eglurodd: “Dwi wedi bod yn ysgrifennydd y clwb ers 2022, ac wedi bod yn rhan o’r gwaith o ailgodi’r clwb ar ôl COVID-19. Mae’n bleser adrodd bod y clwb bellach yn tyfu – mae gennym 30 o aelodau yn amrywio o rai 12 i 90 oed, ac mae bron i hanner yn fenywod. Rydyn ni’n ddiolchgar ein bod wedi derbyn grant gan Hamdden Sir Ddinbych Cyf. eleni, sydd wedi ein galluogi i brynu offer taflunio newydd a gwella safon ein cyflwyniadau yn fawr. Rydyn ni'n hoffi edrych ar luniau, gwneud lluniau, a siarad am luniau. Mae ein rhaglen yn cynnwys amrywiaeth o weithdai, darlithoedd, cystadlaethau a heriau ffotograffig amrywiol. Rydyn ni hefyd wedi bod yn cynnal arddangosfa flynyddol yn Rhuthun am y ddwy flynedd ddiwethaf. Rydyn ni’n croesawu aelodau newydd; ewch i’n gwefan, sef www.ruthincameraclub.com, am ragor o wybodaeth.”

Ar ôl sgwrs hynod ddiddorol gan Dan, bu pawb yn sgwrsio am eu teithiau creadigol eu hunain ac yn rhwydweithio. Roedd artistiaid, ffotograffwyr, perfformwyr, gwneuthurwyr cabinet, turnwyr coed, ysgrifenwyr, cantorion a cherddorion yn bresennol, a chytunwyd ar un peth gan bawb: mae celf, yn ei holl ffurfiau, yn gwneud y byd yn lle mwy diddorol a myfyriol, ac yn arwain at gydweithio gwerth chweil.

chevron-down linkedin facebook pinterest youtube rss twitter instagram facebook-blank rss-blank linkedin-blank pinterest youtube twitter instagram