Gwefan ddwyieithog a rhestriad ar gyfer unigolion creadigol proffesiynol, lled-broffesiynol ac amatur o fewn ardal Rhuthun, gyda’r diben o hyrwyddo cydweithio, hybu cyfleoedd cyfartal a chreu cysylltedd.
I ddarparu rhestr o unigolion creadigol yn ac o gwmpas Rhuthun, i greu cyfleoedd ar gyfer cydweithio a rhannu a rhoi dolenni i lwyfannau cyfryngau cymdeithasol.
I hyrwyddo a hysbysebu digwyddiadau artistig lleol.
I greu man cyfarfod ar-lein sy'n cynnig cyfleoedd i unigolion creadigol greu digwyddiadau trawsddisgyblaethol a chyfarfod unigolion na fyddent wedi’u cyfarfod fel arall.
I feithrin ymdeimlad o gymuned trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol.
I hyrwyddo datblygiad a dealltwriaeth o'r iaith Gymraeg, a hanes a diwylliant Cymru.
I roi llwyfan i bob math o ddiwylliant yn ardal Rhuthun.
I gyfoethogi bywyd diwylliannol, cymdeithasol a chymunedol y trigolion trwy hyrwyddo a chydlynu celfyddydau a diwylliant o fewn Rhuthun a’r cyffiniau.
I feithrin cynhwysiant ar draws ystodau oedran, grwpiau ethnig, diddordebau a galluoedd.
Ymunwch â'n rhwydwaith o unigolion creadigol lleol a helpwch ni i ddathlu'r celfyddydau yn Rhuthun. Cewch rwydweithio a chydweithio ag artistiaid eraill a bod yn rhan o'n cymuned gynyddol.