
Mae holl aelodau pwyllgor Rhwydwaith Celfyddydau Rhuthun yn unigolion creadigol sydd wedi gwirfoddoli i roi rhywbeth yn ôl i’r ardal y maent yn byw ynddi. Mae ymchwil yn dangos manteision digwyddiadau artistig i unigolion ac i gymunedau, e.e. gwell iechyd meddwl, llai o unigedd a gwella cydlyniant cymunedol, ac mae'r pwyllgor am hyrwyddo a gwella'r buddion hyn yn eu cymuned.

Dramodydd a Chynghorydd Tref ydi Mike Van Der Eijk.

Bardd cyhoeddedig, awdur llyfrau i blant a llyfrau addysgiadol ydi Patricia Sumner. Mae hi wedi ennill gwobrau am ei barddoniaeth a’i dramâu. Mae Pat hefyd yn gweithio fel golygydd a phrawfddarllenydd.

Dramodydd arobryn a chyfarwyddwr theatr ydi Tim Baker. Bu’n gweithio am nifer o flynyddoedd yn Theatr Clwyd ac roedd hefyd yn Gyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru. Mae Tim yn gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ac yn aelod o Orsedd y Beirdd.