
Hoffai Rhwydwaith Celfyddydau Rhuthun ddiolch i Dr Rajan Madhok, ein siaradwr gwadd diweddaraf, am sgwrs ddiddorol a chyffrous ar 8 Mai yn yr Hen Lys yn Rhuthun. Daeth llawer o bobl ynghyd i wrando ar hanes taith Rajan, fel meddyg ifanc, o India i'r DU.
Ar ôl cael ei hyfforddi yn ninas Delhi, a chyrraedd y DU yn 1980, bu Rajan yn gweithio fel meddyg iechyd cyhoeddus. Ar hyd y blynyddoedd, llwyddodd i ddringo’r ysgol a dal swyddi rheoli meddygol uwch yn y GIG.
Rhannodd Rajan rai o’i gerddi yn sôn am ddigwyddiadau yn ei fywyd. Mae'r gerdd hon yn mynegi ei deimladau am adael India a dod yn fewnfudwr:
The immigrant
Leaving on that jet plane
for the distant shores
dream come true
going to Britain
new start, new life
excited and daunted
Will I make it
Will it be worthwhile
Will I miss folk back home
Will they miss me
Fast forward four decades
neither Indian nor British
pulled by both
resentful of both
India of youth gone
Britain has changed too
Or is it me
unable to adapt
rootless and restless
the first-generation immigrant
Aeth ei waith yn y GIG â Rajan i wahanol rannau o’r DU, gan ddechrau ar Ynysoedd Shetland. Dechreuodd ddysgu Cymraeg ar ôl ymddeol i Sir Ddinbych yn 2018, a chyfarfod â’i bartner, Helen.
Yn Rhuthun, aeth Rajan ymlaen i sefydlu Cyfnewidfa Ddiwylliannol Rhuthun India (RICE), sydd wedi cynnal llawer o ddigwyddiadau cymdeithasol dros y blynyddoedd, yn dathlu Diwali a Dydd Gŵyl Dewi. I Rajan, mae’r sefydliad hwn yn “fwyd (reis) i’r enaid”. Mae RICE yn dod â phobl o wahanol ddiwylliannau ynghyd ac yn hyrwyddo traddodiadau cyfoethog Cymru ac India: https://ruthinindiaculturalexchange.com/
Roedd hi’n braf clywed, ar ôl blynyddoedd lawer o deimlo nad oedd yn perthyn i'r DU, fod Rajan bellach yn teimlo'n gartrefol yng ngogledd Cymru, fel y mynega yn y gerdd hon:
Fy adre
Home, I am darling
That’s how I feel in Wales
A place where I belong
Like a king, befitting my name*
Not out of choice, but was destined
Stuff happened so could discover
What it means to be alive and loved
Darling, I am home
(*Mae Rajan yn golygu brenin yn Hindi)
Os hoffech chi ddysgu mwy am daith Rajan, dilynwch y ddolen hon i'w draethawd, ‘My Wales – Coming Home’: https://ruthinindiaculturalexchange.com/wp-content/uploads/2023/12/my-wales-an-essay-by-rajan-madhok-2023.docx-5.pdf
Yn dilyn y sgwrs boblogaidd gan Rajan, daeth pawb ynghyd mewn grwpiau i drafod y celfyddydau yn Rhuthun a beth gallwn ni ei wneud i wella creadigrwydd a chydweithio yn y dref.
Mae Rhwydwaith Celfyddydau Rhuthun yn gobeithio cynnal noson gymdeithasol arall yn fuan. Mwy yn y man!