
Roedd Penwythnos Lles y llynedd yn Llanelidan yn llwyddiant mawr ac felly mae ‘Cyfeillion Sant
Elidan’ (y grŵp cymunedol sy’n cynnal y fynwent ac yn trefnu digwyddiadau yn Eglwys Pererinion
Sant Elidan) eisiau adeiladu ar y llwyddiant hwn a gwneud Penwythnos Lles 2024 hyd yn oed yn well.
Bydd rhagor o fanylion ar gael ar-lein yn nes at yr amser (neu gallwch gysylltu â Pat ar 01824 750288
i gael gwybod mwy), ond dyma’r hyn sydd ar y gweill eleni:
DYDD SADWRN 3 AWST
Bydd y penwythnos yn dechrau gyda Gweddi Foreol Geltaidd, dan arweiniad y Parchedig Diana
Greenfield. Bydd digwyddiadau dydd Sadwrn yn cynnwys sesiynau 'Corganu ar gyfer Iachau',
'Celfyddyd Ymlacio' a Myfyrio Baddon Sain. Bydd gweithgareddau Celf ystyriol yn cael eu cynnal yn
ystod y prynhawn ochr yn ochr â sesiynau blasu therapi galw heibio yn yr eglwys, gan gynnwys
Aciwbwysau, iachâd ymarferol, Adweitheg a thylino pen Indiaidd. Bydd cyfle hefyd i ddal i fyny gyda
ffrindiau a chymdogion dros de prynhawn.
DYDD SUL 4 AWST
Bydd dydd Sul yn cynnwys cyflwyniad i Tai Chi, Gweithdy Ysgrifennu Barddoniaeth, taith gerdded
hamddenol a gweddigar o amgylch pentref Llanelidan a gwasanaeth Taizé yn yr eglwys i gloi’r
penwythnos.
Dywedodd Pat Sumner, Ysgrifennydd ‘Cyfeillion Sant Elidan’: “Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod
mor galed i gynifer o bobl. Rydyn ni wedi dioddef pandemig ac argyfwng costau byw, sydd wir wedi
gwneud niwed mawr. Mae llawer o bobl yn teimlo dan straen, yn isel ac yn flinedig, felly roeddem
am gynnig penwythnos lle gall pobl brysur dreulio ychydig o amser i ganolbwyntio ar eu lles, iachau
ac ymlacio eu hunain.”
Bydd rhagor o fanylion yn dilyn ar dudalen Facebook ‘Eglwys Pererinion Sant Elidan’ ac yma:
https://dyffrynclwyd.co.uk/worship/events/wellbeing/