
Mae’n wych cael rhywbeth i edrych ymlaen ato dros fisoedd y gaeaf. Yn ffodus i chi, mae gan Ruthun lawer o ddigwyddiadau diddorol ar y gweill, a dyma rai ohonyn nhw:
Dydd Sadwrn, 26 Hydref tan ddydd Sadwrn, 2 Tachwedd: 10.30 – 4pm yng Ngharchar Rhuthun :
'Llwybr Braw Calan Gaeaf', felly gwisgwch eich gwisg Calan Gaeaf gorau a dewch draw.
Dydd Sul, 3 Tachwedd: 2.30pm – 5pm yn Nant Clwyd Y Dre:
Dathliad o Diwali wedi’i drefnu gan Gyfnewidfa Ddiwylliannol Rhuthun-India.
Dydd Sadwrn, 30 Tachwedd: 10am – 4pm mewn 7 lleoliad gwahanol o amgylch y dref:
Strafagansa’r Nadolig Rhuthun gyda thua 200 o stondinau.
Dydd Sadwrn, 30 Tachwedd: 7:30pm ym Marchnad Da Byw Rhuthun
Cyngerdd elusennol Côr NantClwyd gyda Band Pres Llareggub a Tewtewtennau.
Dydd Mawrth, 3 Rhagfyr: 11am – 2pm yn Nant Clwyd Y Dre:
Gweithdy plu eira gwydr asiedig
Penwythnosau 7/8 a 14/15 Rhagfyr yn Nant Clwyd Y Dre:
Dathliad 'Nadolig trwy'r oesau'.
Dydd Mercher 4 Rhagfyr – amser i'w gadarnhau ym Marchnad Da Byw Rhuthun:
Cyngerdd Meibion Marchan ar gyfer elusen RABI.
Digwyddiadau Rheolaidd
Bob dydd Mawrth: 7:30pm – 9:30pm: Capel y Tabernacl, Stryd y Ffynnon:
Clwb Camera Rhuthun – Siaradwyr a chystadlaethau, gan annog diddordeb mewn ffotograffiaeth
Bob dydd Iau: 7pm – 10.30pm yn y Feathers Inn, Stryd y Ffynnon:
Clwb Cerddoriaeth Werin ac Acwstig Rhuthun AllStyles
Dydd Gwener olaf o'r mis yng Nghastell Rhuthun:
Noson o gerddoriaeth meic agored
Dydd Sadwrn olaf y mis (ac eithrio Rhagfyr): 10am – 12pm yn Llyfrgell Rhuthun:
Os ydych chi'n cynnal digwyddiad, rhowch wybod i ni a byddwn yn helpu i roi cyhoeddusrwydd i'ch digwyddiad ar ein tudalen Facebook a'n gwefan.