Y newyddion diweddaraf

Digwyddiad Cymdeithasol

Published on 

Roedd ein digwyddiad cymdeithasol ar 22 Gorffennaf yn cynnwys Cefyn Burgess, artist dylunio a thecstilau o fri rhyngwladol, sydd wedi cynnal arddangosfeydd llwyddiannus yn y DU a thramor, ochr yn ochr â nifer o gomisiynau. 

Mae ei waith yn dechrau gyda ffotograffau a brasluniau o'r pwnc a ddymunir, ac yn dilyn hynny caiff tecstilau eu dylunio, sy'n adlewyrchu nodweddion ffisegol y pwnc, ac yna'u gwehyddu. Ar y ffabrig, mae portread manwl o'r pwnc wedyn yn cael ei wnïo i greu darlun gweadog. Darluniwyd cyflwyniad Cefyn gan nifer o sleidiau a oedd yn dangos ffynonellau o'i ysbrydoliaeth, yn enwedig cau ei gapel ei hun a gwaith cenhadol Gweinidogion Cymru yn ardal Khasi yn India ac ym Mhatagonia. Arweiniodd hyn iddo gwblhau gweithiau yn y ddwy wlad sy'n dangos sut mae diwylliant a thraddodiad Cymru wedi dylanwadu ac wedi cael eu hamsugno a'u cynnal yn lleol. 

Arddangoswyd sleidiau o ddarnau prydferth, atgofus o waith ynghyd ag esboniadau clir (gyda neillebau doniol!) yn y Gymraeg, a darparwyd cyfieithu ar y pryd Saesneg gan Marion Rees. Lleolir gweithdy Cefyn yng Nghanolfan Grefft Rhuthun lle mae darnau o'i waith hefyd yn cael eu harddangos ac mae'n werth i unrhyw un nad oedd yn gallu mynychu ein digwyddiad fynd i’w gweld.

Ar ôl cyflwyniad Cefyn, roedd lluniaeth ar gael a manteisiodd pobl ar y cyfle i gymysgu a rhwydweithio.

Bydd ein noson gymdeithasol RAN nesaf ddydd Mercher, 17.9.25 yn yr Hen Lys, Rhuthun am 7pm. Ein siaradwr fydd Jude Traharne sy'n wneuthurwr ffilmiau dogfen annibynnol. Teitl cyflwyniad Jude yw: 'Sut gall realiti rhithwir helpu i adeiladu byd mwy tosturiol'. Mae'n addo bod yn noson ddiddorol ac ysbrydoledig a allai alluogi pobl greadigol i ystyried sut y gall hyn gael ei adlewyrchu yn eu gwaith eu hunain. 

Lledaenwch y neges os gwelwch yn dda ac edrychwn ymlaen at eich gweld ar 17 Medi!

chevron-down linkedin facebook pinterest youtube rss twitter instagram facebook-blank rss-blank linkedin-blank pinterest youtube twitter instagram