
Ydych chi'n siarad Cymraeg? Ydych chi'n ysgrifennu yn Gymraeg? Manteisiwch ar y cyfle i gael eich gwaith ysgrifennu mewn Cymraeg pob dydd wedi'i gynnwys yng Ngŵyl Gelfyddydol Ryngwladol Rhuthun, lle bydd yn adleisio a chysylltu â theimladau siaradwyr Cymraeg eraill o bob rhan o'r byd. Ysgrifennwch atom erbyn 20 Mai 2024 drwy anfon e-bost i RuthinArtsFestival@outlook.com
Rydym yn gwahodd siaradwyr Cymraeg o bob rhan o'r byd i gyfrannu at arddangosfa arbennig yng Ngŵyl Gelfyddydol Ryngwladol Rhuthun, a gynhelir o 28 Mehefin tan 4 Gorffennaf yn Rhuthun, Gogledd Cymru, y DU. O dan y thema "Yn Rhywle Arall", rydym yn anelu i ddenu hanfod Cymreictod o bedwar cwr y byd yn ôl i Ruthun, gan ddathlu'r iaith ar ei hamryfal ffurfiau ac yn y defnyddiau niferus ohoni.
Mae’r alwad hon yn agored i bawb, o le bynnag y dônt, i rannu'r hyn y maen nhw'n ei ysgrifennu mewn Cymraeg pob dydd. Boed y rheiny'n ddarnau proffesiynol, yn fyfyrdodau personol, neu'n ysgrifau achlysurol - os ydynt yn berthnasol i'r thema "Yn Rhywle Arall" rydym eisiau eu harddangos. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn deunydd sy'n cyfleu profiadau bob dydd siaradwyr Cymraeg sy'n byw "yn rhywle arall" a'r modd y maen nhw'n cysylltu â'u hunaniaeth Gymreig.
Bydd gwaith yn cael ei gyflwyno ar ffurf printiau ac yn rhan o wrthrychau arddangosfa, gan eu cynnwys mewn gofod o eitemau wedi'u curadu sy'n myfyrio ar y thema o safbwynt Cymreig.
Canllawiau cyflwyno:
Byddwn yn croesawu pob math o waith ysgrifennu yn Gymraeg - barddoniaeth, straeon byrion, llythyrau, cofnodion mewn dyddiadur, neu unrhyw ddarn sy'n sôn am eich profiad o dan y thema "Yn Rhywle Arall."
Anfonwch eich gwaith erbyn 20 Mai 2024 i RuthinArtsFestival@outlook.com