
Cynhaliwyd noson gymdeithasol ddiweddaraf Rhwydwaith Celfyddydau Rhuthun (RAN) yn Y Plu
ddydd Mercher 17 Gorffennaf.
Uchafbwynt y noson oedd gwrando ar y gantores a'r gitarydd Penni Neale, a berfformiodd
amrywiaeth o ganeuon gan gynnwys un o’i chaneuon gwreiddiol ei hun. Prif ddylanwadau Penni yw
cerddoriaeth werin, canu gwlad a jazz, a cheir hi yn canu yn Y Plu ar nos Iau yn y Clwb Gwerin
rheolaidd yno. Roedd pawb wedi mwynhau ei pherfformiad yn fawr.
Roedd y noson hefyd yn gyfle i bobl greadigol sgwrsio a rhwydweithio. Fel y dywedodd Mark
Ratcliffe, crefftwr arobryn sy'n gwneud dodrefn pwrpasol: “Mae hwn yn gyfle gwych i bobl o
wahanol ddisgyblaethau siarad â'i gilydd. Pan ddaw pobl o duedd artistig at ei gilydd, gallant ysgogi
ac ysbrydoli ei gilydd mewn gwahanol ffyrdd.” Er enghraifft, gallai un sgwrs ysgogi llinell newydd o
feddwl a chreadigrwydd, gyda chanlyniadau gwych. (Os hoffech wybod mwy am waith Mark, dyma
ei wefan: https://www.markratcliffe.co.uk/)
Yn ystod y noson gymdeithasol, gofynnodd aelodau'r pwyllgor i'r rhai a oedd yn bresennol beth
hoffent ei weld gan RAN yn y dyfodol. Roedd rhai o'r atebion yn cynnwys cael cyfle i ddarganfod
mwy am ddisgyblaethau ei gilydd, cael darlleniadau yn ystod y digwyddiadau cymdeithasol i ysgogi
trafodaeth a dadl, a cheisio hyrwyddo rhyw fath o gydweithio ar-lein mwy o faint i ledaenu'r neges
am yr hyn y mae RAN yn ei wneud.
Mae RAN yn gobeithio cael cyfarfod cyhoeddus ym mis Medi i gasglu rhagor o safbwyntiau ac i
amlinellu datblygiadau'r Rhwydwaith hyd yn hyn.
Os ydych chi'n berson creadigol o unrhyw fath, gallwch gofrestru ar wefan RAN yma:
https://ruthinartsnetwork.wales/ Byddwch wedyn yn gallu darllen y blogiau diweddaraf, cael
gwybod am ddigwyddiadau lleol, a derbyn gwahoddiadau i ddigwyddiadau cymdeithasol.