
Dydd Iau 17 Hydref o 7.00 – 8.45pm yn yr Hen Lys, Sgwâr San Pedr. LL15 1AA.
Mae Rhwydwaith Celfyddydau Rhuthun yn eich croesawu i’w pedwerydd digwyddiad rhad ac am ddim a fydd gobeithio, gyda’ch mewnbwn, y mwyaf diddorol a chyffrous eto. Rydym wedi paratoi noson o siaradwyr ysbrydoledig (Rajan Madhok from Ruthin Indian Cultural Exchange- RICE), rhannu syniadau, rhwydweithio a gwybodaeth ar sut i gysylltu â Gŵyl Rhuthun, Gŵyl Gelfyddydau Ryngwladol Rhuthun a lleoliadau yn Rhuthun a’r cyffiniau. Mae’n gyfle i gwrdd ag unigolion o’r un anian, trafod y celfyddydau, meddwl am gydweithio a bod yn rhan o gymuned egnïol, gynhwysol a gofalgar. Dywedodd Brian Solis, “Mae cymuned yn llawer mwy na pherthyn i rywbeth; mae'n ymwneud â gwneud rhywbeth sy'n gwneud perthyn yn bwysig.”
Rhwydwaith celfyddydau ar-lein, agored, dwyieithog, rhad ac am ddim yw RAN, sy'n darparu fforwm i bobl greadigol (boed yn broffesiynol, yn lled-broffesiynol neu'n amatur) yn ardal Rhuthun i ddarparu mwy o gyfleoedd i gydweithio a rhannu. Fe’i sefydlwyd i ddechrau gan bum unigolyn creadigol (cyfarwyddwr theatr, dramodydd, cerddor, awdur a dylunydd gwe) sydd eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned greadigol sydd wedi bod yn ffynhonnell gyson o ysbrydoliaeth a chefnogaeth yn eu bywydau. Ers hynny, mae eraill wedi ymuno gyda’r nod o gyfleu syniadau artistig, gan ddod â chydlyniad, cyfle cyfartal a bywiogrwydd i Ruthun a’r cyffiniau.
Felly, p’un a ydych chi’n fardd, yn wneuthurwr basgedi, yn grochenydd, yn gerddor, yn artist, neu’n unrhyw un sy’n ymwneud â’r celfyddydau, dewch draw i greu bwrlwm o greadigrwydd yn Rhuthun.