
Mae Llys Awelon yn Rhuthun, Sir Ddinbych yn gynllun tai gofal ychwanegol a sefydlwyd yn 2011 gan Grŵp Cynefin, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych. Mae’r cynllun yn darparu gwasanaethau cartref, cymorth a gofal i bobl dros 60 oed.
Mae Llys Awelon yn cael ei ailddatblygu’n llwyr i greu cynllun modern, carbon-isel, pwrpasol i ddiwallu anghenion pobl hŷn yn ardal Sir Ddinbych. Bydd 35 o fflatiau ychwanegol yn cael eu hychwanegu at y 21 presennol.
Fel rhan o gymal gwerth cymdeithasol sy’n ymgorffori buddion cymunedol, mae Grŵp Cynefin a Read Construction, datblygwyr y prosiect, yn ariannu prosiect celf cymunedol.


Rydym yn chwilio am artist o unrhyw ddisgyblaeth i greu darn o waith ar gyfer yr adeilad newydd, rhwng Mehefin a Thachwedd 2024, sy’n cyrraedd y meini prawf canlynol:
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau ar y cyd gan fwy nag un artist.
Cyllideb y prosiect yw £6000 gan gynnwys TAW i gynnwys costau artist, sesiynau ymgysylltu, deunyddiau, costau teithio a’r darn terfynol gan gynnwys ei osod.