Y newyddion diweddaraf

Rhwydwaith Celfyddydau Rhuthun

Published on 

Lansiwyd Rhwydwaith Celfyddydau Rhuthun (RAN) ym mis Chwefror eleni. Gyda chymorth Haydn Peers o Snowdon Digital, mae criw o wirfoddolwyr wedi creu gwefan ddwyieithog ar gyfer artistiaid a chrefftwyr yr ardal. Maen nhw wrth eu bodd bod llawer o bobl greadigol eisoes wedi ymuno â’r wefan – mae cantorion, cerddorion, awduron, artistiaid, cerflunwyr, dawnswyr a gwneuthurwyr dodrefn i gyd wedi dod ymlaen. Mae croeso i unrhyw un sy’n greadigol gofrestru ar y wefan yn rhad ac am ddim: ruthinartsnetwork.wales.

Mae'r wefan wedi'i chreu oherwydd gall fod yn anodd darganfod beth sy'n digwydd yn y dref a'r cyffiniau. Weithiau, rydyn ni eisiau gwybod pwy sy'n gwneud beth, ble a phryd, ac rydyn ni eisiau gwybod sut gallwn ni gymryd rhan. Mae'r wefan hefyd yn ffordd dda o hyrwyddo digwyddiadau a chyngherddau, a lleoliadau sydd ar gael i'w defnyddio.

Fel yr eglurodd Mike Van Der Eijk, Trysorydd RAN, “Ein nod yw darparu rhestriad o bobl greadigol yn Rhuthun, ac o gwmpas y dref, er mwyn creu cyfleoedd ar gyfer cydweithio a rhannu. Mae gennym hefyd ddolenni (links) i lwyfannau cyfryngau cymdeithasol i gynorthwyo cyfathrebu. Rydyn ni eisiau hybu ymdeimlad o gymuned trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol.”

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae RAN wedi cynnal nosweithiau cymdeithasol lle mae pobl greadigol wedi dod at ei gilydd i rwydweithio wrth fwynhau noson o gerddoriaeth, canu neu farddoniaeth.

Y gobaith yw, wrth i'r rhwydwaith ddatblygu, y bydd mwy o bobl yn cymryd rhan, gan arddangos doniau artistig niferus yr ardal a chreu mwy o gyfleoedd i gydweithio.

chevron-down linkedin facebook pinterest youtube rss twitter instagram facebook-blank rss-blank linkedin-blank pinterest youtube twitter instagram