
Ddydd Mawrth, 12 Tachwedd, trefnodd Rhwydwaith Celfyddydau Rhuthun (RAN) noson o ysbrydoliaeth a chydweithio ar gyfer artistiaid a phobl greadigol lleol.

Rhoddodd Bethan M. Hughes, artist tecstilau, ac Artist Preswyl yng Nghanolfan Grefft Rhuthun, sgwrs ddiddorol am ei thaith fel artist a'r prosiectau gwych y bu'n rhan ohonynt. Yn gyn-lyfrgellydd, newidiodd Bethan Hughes yrfa i fod yn artist llawn amser yn gweithio trwy gyfrwng pwythau, edau a thecstilau.
Dywedodd Bethan: "Roeddwn yn falch iawn o gael fy ngwahodd i siarad yn y cyfarfod ac i rannu fy ymarfer a’m prosiectau diweddar gydag aelodau'r rhwydwaith. Beth bynnag eich maes creadigrwydd, mae bob amser yn ysbrydoledig clywed gan artistiaid eraill am eu cyfrwng eu hunain, eu ffynonellau ysbrydoliaeth a sut maen nhw'n defnyddio eu sgiliau creadigol. Rhannais fy mhrofiad fel yr Artist Preswyl presennol yng Nghanolfan Grefft Rhuthun, ac am fy nghwiltiau a ddefnyddiaf fel llais i archwilio democratiaeth, hunaniaeth ac ymgyrchu. Siaradais hefyd am ddau brosiect creadigol cymunedol a gyflwynais eleni wedi'u hysbrydoli gan Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru 1923/4. Roedd yn wych cael trafodaeth mewn ymateb i gwestiynau gan y gynulleidfa, ac yna rhwydweithio dros wydraid o win! Diolch i'r rhwydwaith am y cyfle."
Yn ddiweddar, derbyniodd Bethan gomisiwn gan noddwyr Siop y Siswrn i greu'r gwobrau ar gyfer Gŵyl Aled, gŵyl Gerdd Dant, a gynhaliwyd yn Yr Wyddgrug. Gallwch ddarllen mwy am waith cyffrous Bethan yma: https://bethanmhughes.wordpress.com/
Hoffai RAN ddiolch i Bethan am ei sgwrs graff yn y Gymraeg, a Marion Rees am ei chyfieithu ar y pryd ardderchog yn ystod y noson. (Mae'r llun o Bethan wedi ei dynnu gan y ffotograffydd, Dewi Tannatt Lloyd.)
Yn dilyn y sgwrs, ymgasglodd y mynychwyr mewn grwpiau bach i drafod eu teithiau artistig eu hunain ac i ddod i adnabod ei gilydd yn well. Roedd yn wych clywed am y gwaith o gerflunio, ysgrifennu, cerddoriaeth, ffilm, gwneud dodrefn, celf, dawns a thecstilau sy'n digwydd yn lleol, a dywedodd y cyfranogwyr yr hoffent gael mwy o nosweithiau fel hyn lle gallent drafod syniadau gyda’i gilydd a chynllunio cydweithrediadau ar gyfer y dyfodol.
Adam Young yw Rheolwr Digwyddiadau Neuadd Farchnad Rhuthun, ac mae ei ymarfer artistig ei hun yn ymwneud â Chelf Fyw, Ymarfer Cymdeithasol a Gosodiadau. Mwynhaodd Adam y noson a gynhaliwyd gan RAN yn fawr, a dywedodd: "Roedd clywed Bethan yn siarad am ei hymarfer, ei meddwl a'i methodoleg yn hynod ysbrydoledig i mi gan fy mod i fy hun wedi cymryd seibiant o fy ngwaith artistig fy hun yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae gallu ymgynnull yn y cnawd gyda phobl greadigol eraill, yn enwedig fel rhywun cymharol newydd i'r dref, yn amhrisiadwy i wneud cysylltiadau a darganfod beth mae pobl eraill yn gweithio arno. Gallaf weld y potensial sydd gan RAN i ddod yn rhan hanfodol o ysgogi cydweithio newydd rhwng aelodau a sefydliadau fel ei gilydd."
Gobaith Rhwydwaith Celfyddydau Rhuthun yw cynllunio digwyddiad tebyg yn gynnar y flwyddyn nesaf. Gallwch ddarganfod mwy am RAN yma: https://ruthinartsnetwork.wales/