Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i chreu gan aelod. Eu cyfrifoldeb nhw yw darparu gwybodaeth ddwyieithog lle bo modd. Os nad yw'r cyfieithiad ar gyfer unrhyw wybodaeth ar gael, bydd yn cael ei arddangos yn yr iaith y cyflwynwyd. Os hoffech chi wirfoddoli i helpu gyda chyfieithu, cysylltwch â ni.
Deuawd canu o Rhuthun yw y Dyffryn Divas sydd ar gael i gymryd archebion ar gyfer penblwyddi, partïon, priodasau, ‘bar mitzvah’, beth bynnag yr achlysur. Mae ganddynt hanes hir o ganu gyda'u gilydd. Maent yn canu yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwyieithog. Maent wedi trawsgrifio a chyfieithu rhai caneuon Saesneg i'r Gymraeg; maent yn canu caneuon modern a rhai traddodiadol; gallant ddarparu ar gyfer rhywun. Byddwch yn clywed nhw'n dweud bod eu caneuon fel bocs o siocledi, da chi byth yn gwybod pa gân rydych yn mynd i'w glywed. Os oes gennych chi gân arbennig mewn golwg gallant ddysgu'r gân i chi i unrhyw achlysur arbennig.
Diddordeb mewn cydweithio yn y meysydd canlynol:
Wedi rhannu llwyfan gyda Mic ar y Meic a Bwncath yn canu ar gyfer noson Elusennol lleol.
Wedi bod ar daith bws i'r Alban gyda Teithiau Elfyn Thomas yn rhannu'r llwyfan gyda Tudur Wyn yn canu i'r gyd-twristiaid.
Wedi cael preswyliad un haf yn Nghastell Rhuthun yn diddanu'r gwesteion.
Wedi canu mewn llawer o ddigwyddiadau Elusennol.
Wedi canu mewn amryw o briodasau.
Ymwadiad
Mae Rhwydwaith Celfyddydau Rhuthun yn cynnig safle cyhoeddus i unigolion creadigol, trefnwyr digwyddiadau ac eraill i hysbysebu eu sgiliau a'u hargaeledd. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros unrhyw drefniadau a wneir rhwng a chan ddefnyddwyr rhwydwaith ac ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw drefniadau o'r fath. Nid oes gennym unrhyw fodd o wirio honiadau a wneir gan aelodau safle o ran sgiliau neu hyfedredd, argaeledd adnoddau na lleoliadau ac ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddiffygion yn y trefniadau a wneir rhwng defnyddwyr y safle. Y trefnwyr eu hunain fyddai'n gyfrifol am wirio cywirdeb unrhyw honiadau a wneir gan ddefnyddwyr y rhwydwaith.
Ymunwch â Rhwydwaith Celfyddydau Rhuthun trwy greu eich proffil cyhoeddus eich hun. Arddangoswch yr hyn y gallwch ei wneud a chydweithiwch ag artistiaid lleol eraill.