Artistiaid

Dyffryn Divas

Cysylltwch am fanylion
Rhif Ffôn: 07590 363 135
Anfon e-bost

Am Dyffryn Divas

Deuawd canu o Rhuthun yw y Dyffryn Divas sydd ar gael i gymryd archebion ar gyfer penblwyddi, partïon, priodasau, ‘bar mitzvah’, beth bynnag yr achlysur. Mae ganddynt hanes hir o ganu gyda'u gilydd. Maent yn canu yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwyieithog. Maent wedi trawsgrifio a chyfieithu rhai caneuon Saesneg i'r Gymraeg; maent yn canu caneuon modern a rhai traddodiadol; gallant ddarparu ar gyfer rhywun. Byddwch yn clywed nhw'n dweud bod eu caneuon fel bocs o siocledi, da chi byth yn gwybod pa gân rydych yn mynd i'w glywed. Os oes gennych chi gân arbennig mewn golwg gallant ddysgu'r gân i chi i unrhyw achlysur arbennig.

Diddordeb mewn cydweithio yn y meysydd canlynol:

Wedi rhannu llwyfan gyda Mic ar y Meic a Bwncath yn canu ar gyfer noson Elusennol lleol.
Wedi bod ar daith bws i'r Alban gyda Teithiau Elfyn Thomas yn rhannu'r llwyfan gyda Tudur Wyn yn canu i'r gyd-twristiaid.
Wedi cael preswyliad un haf yn Nghastell Rhuthun yn diddanu'r gwesteion.
Wedi canu mewn llawer o ddigwyddiadau Elusennol.
Wedi canu mewn amryw o briodasau.

Ymwadiad

Mae Rhwydwaith Celfyddydau Rhuthun yn cynnig safle cyhoeddus i unigolion creadigol, trefnwyr digwyddiadau ac eraill i hysbysebu eu sgiliau a'u hargaeledd. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros unrhyw drefniadau a wneir rhwng a chan ddefnyddwyr rhwydwaith ac ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw drefniadau o'r fath. Nid oes gennym unrhyw fodd o wirio honiadau a wneir gan aelodau safle o ran sgiliau neu hyfedredd, argaeledd adnoddau na lleoliadau ac ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddiffygion yn y trefniadau a wneir rhwng defnyddwyr y safle. Y trefnwyr eu hunain fyddai'n gyfrifol am wirio cywirdeb unrhyw honiadau a wneir gan ddefnyddwyr y rhwydwaith.
crosschevron-down linkedin facebook pinterest youtube rss twitter instagram facebook-blank rss-blank linkedin-blank pinterest youtube twitter instagram