
Mae tŷ a gardd hanesyddol Nantclwyd y Dre yn cynnig cyfle unigryw i archwilio mwy na 500 mlynedd o hanes, o’r cyfnod canoloesol i’r 20fed ganrif. Fel un o’r tai tref â ffrâm bren hynaf yng Nghymru, mae’r safle rhestredig Gradd I yn cynnig taith drwy gyfnodau Canoloesol, Jacobeaidd, Tuduraidd, Stiwartaidd, Sioraidd, Fictoraidd, Edwardaidd a’r Ail Ryfel Byd.
Tŷ gwehydd oedd yn wreiddiol, ac mae’r adeilad wedi parhau i ddarparu cartref ar gyfer creadigrwydd, celf a chrefftau – diolch yn bennaf i’r pensaer, caligraffydd, arlunydd a’r naddwr coed, Samuel Dyer Gough, sef perchennog y tŷ o 1934 ymlaen, y gellir gweld ei waith crefftus drwy’r tŷ i gyd hyd heddiw.
Heddiw, mae’r safle’n cadw trawsnewidiadau artistig y tŷ’n fyw drwy weithio’n agos gyda chrefftwyr ac artistiaid lleol i ddarparu lleoliad hanesyddol ar gyfer gweithdai a digwyddiadau, ac mae mannau ar gael – rhai am ddim a rhai y telir amdanynt – ar gyfer grwpiau o wahanol faint.
I archebu lle neu wneud ymholiadau, cysylltwch ag adran Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych drwy anfon e-bost at heritage@denbighshire.gov.uk
