
Rydym yn gweithio i hyrwyddo, cefnogi a datblygu gweithgarwch celfyddydol yng nghymunedau Sir Ddinbych sy'n amrywio o'r celfyddydau gweledol a chrefft i gerddoriaeth, dawns, drama, ysgrifennu creadigol a ffilm. Mae'r Celfyddydau Cymunedol yn darparu cyfleoedd i bawb gymryd rhan yn y celfyddydau waeth beth fo'u profiad, oedran neu gefndir.
Rydym yn gweithio gydag ystod eang o bartneriaid, o sefydliadau'r trydydd sector i grwpiau cymunedol ar draws meysydd iechyd a lles. Mae ein rhaglen Celfyddydau Cymunedol wedi'i chynllunio i gefnogi blaenoriaethau a nodir yn y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Yn Rhuthun ar hyn o bryd, rydym yn rhedeg prosiect Ymgolli mewn Celf ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr. Rydym yn cwrdd bob prynhawn dydd Mawrth yng Nghanolfan Grefft Rhuthun, cysylltwch am fwy o wybodaeth. Rydym hefyd yn cynnal sesiynau canu cymunedol yn mhentref Llanrhaeadr ar foreuau Mawrth.
Mae celf yn cyflawni pethau gwych yn ein cymunedau lleol:
• Mae'n dod â phobl at ei gilydd
• Creu swyddi
• Cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd
• Datblygu diddordebau newydd
• Gwneud pentrefi, trefi a dinasoedd yn lleoedd gwych i fyw, gweithio ac ymweld â nhw
Cyflwynir y rhan fwyaf o'n gwaith mewn partneriaeth ag amrywiaeth o bartneriaid trydydd sector, iechyd a gofal cymdeithasol ac artistiaid llawrydd. Cysylltwch â ni os oes gennych syniadau yr hoffech eu trafod neu os ydych yn ymwybodol o angen penodol.
